Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 12 Tachwedd 2015
Amser: 09.03 -
12.08
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3303
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Christine Chapman AC (Cadeirydd) Peter Black AC Alun Davies AC Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Mark Isherwood AC Bethan Jenkins AC Gwyn R Price AC Rhodri Glyn Thomas AC |
Tystion: |
Rona Fairhead, BBC Trust Elan Closs Stephens, BBC Trust Iestyn Garlick, Cadeirydd, TAC Gareth Williams, TAC John McVay, Pact |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhys Iorwerth (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Jocelyn Davies AC a Gwenda Thomas AC. Dirprwyodd Bethan Jenkins AC ar ran Jocelyn Davies.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Rona Fairhead, Cadeirydd, Ymddiriedolaeth y BBC
· Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth y BBC
2.2 Cytunodd yr Ymddiriedolaeth i ddarparu i’r Pwyllgor adroddiadau monitro yr Ymddiriedolaeth, neu grynodeb o’r adroddiadau, sy’n asesu’r cynnydd a wnaed mewn perthynas ag Adroddiad King ym mis Mehefin 2008.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Iestyn Garlick, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)
· Gareth Williams, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)
· John McVay, Producers Alliance for Cinema and Television (PACT)
3.2 Cytunodd TAC i geisio darparu rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am gyllid BBC Alba, ac a fydd S4C a BBC Alba yn cael eu trin yn debyg yn y dyfodol.
4.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2 a 3.
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei drafodaeth ar Fil Cymru drafft a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol ar ei newydd wedd.